Cafodd Eisteddfodwyr a oedd yn teithio adref i gyfeiriad Y Barri o faes yr Eisteddfod neithiwr dipyn o sioc o weld tân yn amgylchynu Mercedes-Benz wrth ymyl B4265 ger Sain Tathan.
Yn ffodus, dydi'r heddlu ddim yn credu bod unrhywun wedi eu hanafu yn y digwyddiad; er mi ddechreuodd y tân cyn 9.55yh ac roedd traffic yn parhau i yrru heibio'r car am yr ugain munud nesaf tan fod yna wasanaethau argyfwng yn cyrraedd. Roedd gyrrwyr eraill wedi dod allan o’u ceir i weld y fflamau’n cipio’r car tan yn ulw.
Serch hynny, wedi gwaith da a dewr gan y gwasanaethau argyfwng yn yr ardal,
roedd y ffordd yn glir i geir eto erbyn 10:55yh.
Nid oes yna esboniad eto o'r heddlu ynglyn a phwy na sut losgwyd y car;
roedd yr heddlu lleol a ddaeth i'r digwyddiad neithiwr yn ansicr taw achos o ladrata
a rasio ceir ydoedd gan taw hen gar Mercedes "N reg" ydoedd; gobeithio'n wir
nad yw'r arwyddocaol bod y dynion tân a brwydrodd y fflamau'n llwyddiannus
wedi dod o hyd i gerbyd baban ‘pram’ yng nghist y car a oedd wedi cael ei gymryd allan o’r car yn ystod y digwyddiad.
Mae’r olygfa o ddynion ifanc yn rasio ceir preifat ar hyd stryd Broad St yn y Barri yn ddigon cyffredin ar y penwythnosau ac mae perchnogion y busnesau lleol yn ofni damweiniau ffordd yn yr ardal yn sgil hyn, ond roedd y digwyddiad yma neithiwr ymhell o ganol y dref a hyd yn hyn dim ond un car sy’n cael ei archwilio.
Doedd neb wedi cael ei harestio neithiwr gan yr heddlu wrth ymyl y ffordd, mae’n debyg i’r sawl a oedd wedi parcio’r car gerdded dros y caeau sydd rhwng Sain Tathan a Thre-Befera i ddiogelwch.
Cedwir pob hawl. Ni cheir ail-ddefnyddio'r erthygl uchod heb gysylltu gyda'r awdur sef david.wyn.williams@dailingual.co.uk / dailingual@blackberry.orange.co.uk
This email was sent from the scene of the incident last night, FYI
Sent using BlackBerry® from Orange
-----Original Message-----
From: dailingual@blackberry.orange.co.uk
Date: Sat, 11 Aug 2012 21:55:01
To: <dai.lingual@dailingual.co.uk>
Reply-To: dailingual@blackberry.orange.co.uk
Subject: Mystery fire nr Eisteddfod
Police are puzzled as to why an N reg Mercedes Benz was abandoned and set alight on a main road between Llantwit Major and Barry tonight.
At approximately five to ten this evening (Sat 11th August) a dramatic fire slowed, but didn't stop traffic as the abandoned car caught alight in an inferno of flames.
It is not thought to be a joyriding incident at this time, although no possible explanation for the fire has been offered by the local police who closed the road for nearly an hour as a firecrew
successfully fought the blaze.
Local businessman Ali Deveci of Oasis Cafe Bar and Restaurant admitted that youngsters 'racing' cars in the local area "can be a problem espcially on Broad St on the weekends."
The road was opened to traffic again at 10.45 and flowing freely by 10.55
David W Williams
07964 684 820
(For picture/ video)